SL(6)404 – Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

Cefndir a Diben

Nod Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023  (y Ddeddf) yw mynd i'r afael â'r difrod a achosir gan ddefnyddio a chael gwared ar gynhyrchion plastig untro (CPU) yng Nghymru. Mae Adran 5 o'r Ddeddf yn creu trosedd o gyflenwi CPU gwaharddedig.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y caiff awdurdod lleol, fel y rheoleiddiwr, osod sancsiynau sifil mewn perthynas â throseddau o dan adran 5 fel dewis amgen yn lle erlyniadau troseddol. Y sancsiynau sifil yw:

§  cosbau ariannol penodedig,

§  cosbau ariannol amrywiadwy,

§  hysbysiadau cydymffurfio,

§  hysbysiadau stop, ac

§  ymgymeriadau gorfodi.

Er enghraifft, os yw awdurdod lleol wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 5, caiff yr awdurdod lleol, lle mae'n briodol gwneud hynny, osod cosb benodedig o £200 ar y person yn lle erlyn y person.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer canllawiau yn ymwneud â defnyddio sancsiynau sifil, ac ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am y camau gorfodi a gymerwyd gan awdurdodau lleol.

Y weithdrefn

Cadarnhaol Drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pedwar pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 6 yn nodi:

Caiff y rheoleiddiwr adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy neu unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.

Byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru egluro ystyr rheoliad 6, yn benodol pam fod angen dweud bod cosb y gellir ei hadennill "ar orchymyn llys" yn cael ei thrin fel un sy'n daladwy "o dan orchymyn llys". Heb esboniad, mae'r cyfeiriad at orchymyn llys a gorchymyn llys yn ymddangos yn gylchog.

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am sancsiynau sifil. Er enghraifft, mae'n rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi adroddiadau sy'n pennu’r achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt. Fodd bynnag, mae rheoliad 14(3) yn nodi nad yw rheoliad 14 yn gymwys mewn achosion pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai cyhoeddi yn amhriodol.

Byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru:

(a)   egluro'r bwriad y tu ôl i reoliad 14(3),

(b)   rhoi enghreifftiau o bryd y gallai cyhoeddi fod yn amhriodol, ac

(c)   esbonio sut y bydd barn Llywodraeth Cymru ynghylch yr hyn sy'n amhriodol yn cael ei chyfleu i awdurdodau lleol.

3. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae paragraff 2 o Atodlen 1 yn nodi gofynion hysbysiad o fwriad i osod cosb ariannol benodedig. O ran paragraff 2:

(a)   A ddylai hysbysiad o fwriad hefyd gynnwys gwybodaeth am sut y gellir gwneud y taliad rhyddhau?

(b)   Beth mae "gofyniad" yn ei olygu ym mharagraff 2(2)(d)(iii)? Nid yw Atodlen 1 yn cyfeirio'n benodol at unrhyw "ofyniad" (yn wahanol i Atodlen 2). A ddylid newid "gofyniad" i "gosb"?

4. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae paragraff 1(4) o Atodlen 2 yn dweud, cyn cyflwyno hysbysiad cosb ariannol amrywiadwy, caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu gwybodaeth at ddiben cadarnhau swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o ganlyniad i drosedd o dan adran 5.

Fodd bynnag, nid yw'n glir beth sy'n digwydd os yw'r person yn gwrthod darparu’r wybodaeth, h.y. sut mae'r gofyniad hwn yn cael ei orfodi?

 

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phob un o’r pwyntiau adrodd.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

15 Tachwedd 2023